‘Mae gen i gyfrinach,’
meddai’r siwg wrth y seld,
‘wyddost ti beth sy’ tu mewn i mi?’
‘Fedra’ i ddim gweld,’
meddai’r seld,
‘dim ond un llygad sydd gen i,
un crau yng ngraen y pren,
ac rwyt ti, Siwg y Canol, yn rhy bell o’m llygad fach i.’
Ond pan ddaeth dydd y dwsto,
cydiodd dwy law’n ofalus yn y siwg
a’i symud ychydig.
‘Pst!’ meddai’r siwg wrth y seld.
‘Ti’n gweld fi nawr?
Edrych! Y tu mewn!’
Ac yn wir, roedd yr ongl rhwng llygad y seld a’r siwg
yn berffaith,
a chraffodd â holl nerth ei gweld.
‘Twt! Dim byd!
Rwyt ti’n gwbl wag!’
Meddai’r seld rhwng siom a gwawd.
‘Rwyt ti’n siwg fach grand ond cwbl dlawd.’
Wfftiodd y siwg y sylwadau cas,
‘Cyfrinach yw cyfrinach!’
A dechreuodd amau
nad pawb sydd o dras
y gwybod,
ac amau efallai
mai dim ond rhai all weld
ei bod hi’n dal yr haul
yng nghanol y seld.
A series of poetic responses to The Language of Clay, composed by Mererid Hopwood.