Ymdawelwn
A series of poetic responses to The Language of Clay, composed by Mererid Hopwood.
Ymdawelu
Ingrid Murphy | Gweledig ac anweledig
Ac yn awr
yn ein tai o glai
goleuwn ganhwyllau ar allorau oer.
Wedi’r awr waith,
cawn groesi’r hen drothwy -
y gorwel rhwng sŵn a thawelwch.
Cawn ddiosg y sgidiau baw a’r sachell
a gadael i gellwair fflach y fflam
ein tynnu’n nes, gam wrth gam.
Cipiwn yn ôl i’n cwpan aur
eiliad gatholig
y dod ynghyd,
â sêr ar y rhimyn,
yng ngheg y nos
mae blas serameg.
‘Ymdawelwn’,
meddai’r llwch wrth y llwch.
Micki Scholessingk | Pridd tân a halen
O Bridd, (1)
nid oes ynys
lle mae’r nos yn goleuo’r niwl
a’r niwl yn tywyllu’r nos.
Ni allai’r ia ar allor yr haul
ddal ei afael.
Y tir sy’n las -
fel erioed -,
a rhwng braenar Ebrill a braenar Mihangel, 2020,
a’r boreau braf yn bwrw ofn
wawr i wyll,
daw’r gwanwyn a’r haf
ac ni chyll yr halen ei flas.
Rhaid cario coed i’r odyn,
cynnau’r tân.
Ac, i gyfeiliant clatsh gwreichionyn,
o’r tir hwn dan ein traed -
y clai lleidiog, gludiog -
crëwn lestri glân.
Drwy’r ia tawdd, daw gwydr y tir
â desglau hardd wedi’r disgwyl hir.
Gweler y gerdd O Bridd yn Dail Pren gan Waldo Williams
Anna Noël | Chwedleua
Yr oedd Anna, ferch Nadolig,
yn Frenhines
ar Ferwallt Llancyngur Trosgardi.
Ac un prynhawn, yr oedd yn un o’i llysoedd
o’r lle y gallai glywed y môr.
(Wel, bron iawn.)
A chyda hi, roedd Iorwerth Llŷr a Gwilym Ddu
a gwyrda a gwreigda heblaw hynny,
fel y gweddai
o gwmpas Brenhines.
A chyda’r hwyr,
â nhw yng nghwmni ei gilydd,
dechreuodd amser
chwedleua
am fwch a charw a sgwarnog a cheffyl a chath a chi ...
Ac yn yr ymddiddan
diflannai’r oriau
nes dod blaidd.
Ac mewn un defnyn,
daliodd eiliad fach ei hanadl yn dynn,
a cholli ei llais.
Mae yno o hyd
yn fud mewn swigen grog
yn disgwyl llafn llif y funud
i’w hollti’n rhydd ...
Pop!
Kate Haywood | Olion
Ffurf ifanc sydd i’th ffurfafen,
ond eto, pe bawn i’n eu datod,
y ffurf a’r ffurfafen,
gwelwn ynddynt olion ffordd
ddechreuodd ymhell, bell
cyn bod lliw na llais,
pan oedd y lle yn dywyll iawn
a’r llall yn ymwahanu oddi wrth yr hyn,
fel y dydd gwyn
oddi wrth y nos.
Ac ar hyd yr hen ffordd
cawn ffosiliau cysgodion.
Maint beth? Llond dwrn?
A phob un mor rhyfedd o gyfarwydd
â’r trac yn nghledr fy llaw.
Justine Allison | Rhwng Llinellau
‘Mae gen i gyfrinach,’
meddai’r siwg wrth y seld,
‘wyddost ti beth sy’ tu mewn i mi?’
‘Fedra’ i ddim gweld,’
meddai’r seld,
‘dim ond un llygad sydd gen i,
un crau yng ngraen y pren,
ac rwyt ti, Siwg y Canol, yn rhy bell o’m llygad fach i.’
Ond pan ddaeth dydd y dwsto,
cydiodd dwy law’n ofalus yn y siwg
a’i symud ychydig.
‘Pst!’ meddai’r siwg wrth y seld.
‘Ti’n gweld fi nawr?
Edrych! Y tu mewn!’
Ac yn wir, roedd yr ongl rhwng llygad y seld a’r siwg
yn berffaith,
a chraffodd â holl nerth ei gweld.
‘Twt! Dim byd!
Rwyt ti’n gwbl wag!’
Meddai’r seld rhwng siom a gwawd.
‘Rwyt ti’n siwg fach grand ond cwbl dlawd.’
Wfftiodd y siwg y sylwadau cas,
‘Cyfrinach yw cyfrinach!’
A dechreuodd amau
nad pawb sydd o dras
y gwybod,
ac amau efallai
mai dim ond rhai all weld
ei bod hi’n dal yr haul
yng nghanol y seld.
Anne Gibbs | Llonydd
Ac yn awr,
wedi’r gwanu a’r rhwyllo,
wedi oriau’r nodwyddo,
wedi curo’r clai yn ddalen denau
a’i euro’n sglein,
pwyll piau hi.
Cei osod â dwylo delicet
y darnau cain, cywrain
mewn llif o olau croyw –
fel y mae gollwng cwrwgl i afon.
Yna, cei ddadweindio’r edau,
a gadael y desglau i bysgota’n bryfoclyd
am belydrau aur,
nes daw awr eu hailangori
â blaen pin.
Ymdawelwn
Trosiad o A Callarse gan Pablo Neruda
Ac yn awr, beth am gyfri i ddeuddeg
ac ymdawelu - bob un ohonom.
Am unwaith ar y ddaear,
beth am i neb siarad mewn unrhyw iaith,
am un eiliad, beth am i bawb ymatal,
rhoi’r gorau i chwifio breichiau.
Buasai hi’n funud hyfryd-felys,
heb frys, heb beiriannau,
pawb gyda’i gilydd
mewn anesmwythid sydyn.
Ni fuasai pysgotwyr y moroedd oer
yn dolurio’r morfilod,
a buasai triniwr yr halen
yn edrych ar ei ddwylo clwyfedig.
Buasai’r rhai sy’n paratoi rhyfeloedd niwclear,
rhyfeloedd nwy, rhyfeloedd tân,
buddugoliaethau heb neb yn goroesi,
yn gwisgo amdanynt ddillad glân
ac yn mynd am dro gyda’i brodyr
dan y cysgod, a gwneud dim.
Peidiwch â’m camddeall,
nid diogi diderfyn sydd gen i fan hyn,
byw yw gweithredu, a dyna ni;
does a wnelo hyn ddim â marwolaeth.
Ac os na allen ni’n unfrydol
newid ein bywydau gymaint â hyn,
efallai y buasai’r gwneud dim am un waith,
efallai y gallasai’r tawelwch mawr
dorri’r tristwch hwn,
y diffyg-deall-ein-gilydd gwastadol
a’r bygwth-ein-gilydd â marwolaeth,
efallai y gallasai’r ddaear ein dysgu ni,
pan fo popeth yn ymddangos yn farw
ei fod, wedi’r cyfan, yn fyw.
Ac yn awr, rwyf am gyfri i ddeuddeg,
a thithau, ymdawela, ac mi af.